Stori Darganfod Gwrthfiotigau: Rhan 1

Sut y bu i ddarganfyddiad damweiniol mewn labordy anniben newid y byd

 
Alexander Fleming yn edrych braidd yn ddiflas... Nid yw pob gwyddonydd yn edrych mor ddiflas â hyn, o ddifrif!

Alexander Fleming yn edrych braidd yn ddiflas... Nid yw pob gwyddonydd yn edrych mor ddiflas â hyn, o ddifrif!

Roedd hi'n noson oer ym mis Medi yn Llundain, 1928.

Roedd Dr Alexander Fleming yn dychwelyd o wyliau yn yr Alban ac, fel y rhan fwyaf o wyddonwyr ymchwil, dychwelodd i ddod o hyd i fainc labordy flêr IAWN, gan nad oedd wedi'i thacluso cyn iddo adael — mae gwyddonwyr yn hoffi galw llanastr yn 'anhrefn trefnus'.

Ganwyd Dr Alexander Fleming yn 1881, ac astudiodd feddygaeth yn Ysgol Feddygol y Santes Fair, Llundain. Ar ôl cymhwyso, dechreuodd ei yrfa ymchwil yn 1906. Dechreuodd ymddiddori'n gyflym ym maes gwyddoniaeth heintiau, y bacteria sy'n achosi'r heintiau, ac mewn sylweddau gwrthseptig a oedd yn wenwynig iddynt.

Yn 1928, roedd Fleming yn gweithio gydag un bacteriwm o'r fath, o'r enw Staphylococcus.  Gellir tyfu bacteria ar 'blatiau agar', sydd yn y bôn yn jeli solet sy'n llawn maetholion a bwyd bacteria.

Roedd Fleming wedi gadael platiau agar ag ynddynt dyfiant Staphylococcus ar y fainc yn ei labordy.

Pan ddychwelodd o'i wyliau, daeth o hyd i blât agar o Staphylococcus ar agor ger ffenestr. Roedd y plât wedi'i halogi, ac arno roedd llwydni ffwng wedi tyfu — yn union fel ar fwyd os byddwch yn ei adael allan o'r oergell am ddyddiau!

Yn ddiddorol, sylwodd Fleming fod y Staphylococcus oedd yn tyfu'n agos at y llwydni yn cael eu lladd, gan adael parth clir o ddim tyfiant, neu'r hyn y byddem yn ei alw erbyn hyn yn 'barth atal'.

Edrychwch ar y llun isod — mae hyn yn debyg i'r hyn y byddai Fleming wedi'i weld.  

Picture3.png

Fel unrhyw wyddonydd da, dechreuodd Fleming feddwl. Roedd yn amlwg fod y llwydni yn gwneud rhywbeth, a oedd yn lladd y bacteria cyfagos. Felly penderfynodd ymchwilio ymhellach!

Yn gyntaf, darganfu fod y llwydni yn rhywogaeth ffwngaidd o'r enw Penicillium. Canfu fod y ffwng hwn wedi cael yr un effaith â lladd llu o facteria oedd yn achosi clefydau cas iawn, gan gynnwys diphtheria, gonorrhea, llid yr ymennydd, niwmonia a'r dwymyn goch!

Y cwestiwn nesaf oedd SUT roedd y Penicillium yn lladd y bacteria?

Darganfu Fleming nad y llwydni ei hun oedd yn lladd y bacteria, ond secretiad ffwngaidd. Roedd Penicillium yn rhyddhau 'sudd' gwenwynig a fyddai'n atal bacteria rhag tyfu — dyna pam y gwelodd Fleming y 'parth atal' o amgylch y Penicillium. Galwodd Fleming y sudd ffwngaidd hwn yn penisilin — a fyddai'n dod i fod ein gwrthfiotig cyntaf oll.

Cyhoeddodd Fleming ei ganfyddiadau cyffrous mewn papur gwyddonol a chael, yn ôl pob tebyg, fawr ddim sylw i ddechrau. Yn anffodus, nid oedd gan Fleming y gallu, na'r arian, i fynd â'i ymchwil ymhellach. O'r herwydd, arafodd ei waith, gan ei bod yn amhosibl iddo ynysu cymaint o sudd penisilin ag yr oedd ei angen arno.

Yn y pen draw, sylwodd dau gyd-wyddonydd, Ernst Chain a Howard Florey, ar ei waith ond mae honno'n stori ar gyfer Rhan 2, a fydd yn dod yn fuan!

Fe welwch felly fod gwyddoniaeth yn fater o waith caled, chwilfrydedd ac ymchwil, ond yn aml mae hefyd yn ymwneud â bod yn lwcus! Fel y dywedodd Fleming ei hun: "Mae rhywun weithiau'n dod o hyd i'r hyn nad yw'n chwilio amdano. Pan ddeffroais ar ôl y wawr ar 28 Medi, 1928, yn sicr nid oeddwn yn bwriadu chwyldroi meddygaeth gyfan trwy ddarganfod lladdwr bacteria cyntaf y byd. Ond mae'n debyg mai dyna'n union wnes i."

I Fleming, arweiniodd bod braidd yn flêr ac anniben at y darganfyddiad pwysicaf mewn meddygaeth: gwrthfiotigau! Cofiwch y tro nesaf y bydd eich rhieni'n glanhau eich ystafell wely 😉 (ond peidiwch â dweud wrthynt ein bod wedi dweud wrthych)!

 Byddwch yn barod am Ran 2 Stori Darganfod Gwrthfiotigau, fydd yn dod yn fuan!

Blaenorol
Blaenorol

Gwawr yr Angylion ym Mrwydr Shiloh

Nesaf
Nesaf

Y Frech Wen: Y Clefyd a Wnaeth Hanes