Y Frech Wen: Y Clefyd a Wnaeth Hanes

O'r lladdwr mwyaf yn y byd i'r clefyd heintus cyntaf erioed i gael ei ddileu

 
Darlun dyfrlliw o lawysgrif Siapaneaidd o'r enw Toshin seiyo [Hanfodion y frech wen], c. 1720.Oriel Casgliad Wellcome

Darlun dyfrlliw o lawysgrif Siapaneaidd o'r enw Toshin seiyo [Hanfodion y frech wen], c. 1720.

Oriel Casgliad Wellcome

Roedd y frech wen yn glefyd heintus iawn ac yn aml yn un marwol a achoswyd gan feirws variola. Roedd y frech wen yn cael ei drosglwyddo trwy gysylltiad â chleifion heintiedig, fel arfer drwy'r aer gan ddiferion yn dianc pan oedd person heintiedig yn pesychu, yn tisian neu'n siarad.

Fel arfer, roedd symptomau cyntaf y frech wen yn cymryd tua phythefnos i ymddangos. Yna byddai'r clefyd yn dechrau'n sydyn gyda thwymyn, cur pen, blinder, poen a chwydu. Ychydig fel dioddef o'r ffliw. Ond ychydig ddyddiau'n ddiweddarach, byddai mannau coch yn dechrau ymddangos ar yr wyneb, y dwylo a blaen y fraich, ac yn ddiweddarach ar weddill y corff. Byddai llawer o'r briwiau hyn yn datblygu'n bothelli llawn pws. Byddai crachod yn dechrau ffurfio wythnos yn ddiweddarach ac yn y pen draw yn disgyn i ffwrdd, gan adael creithiau dwfn ar y croen. Byddai briwiau a doluriau hefyd yn datblygu y tu fewn i'r trwyn a'r geg.

Roedd y frech wen mor gyffredin yn Ewrop ac Asia fel y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cael eu heintio ar ryw adeg yn ystod eu hoes. Ac ar gyfartaledd, byddai 3 o bob 10 person oedd yn ei gael yn marw. Roedd pobl a oroesodd fel arfer yn cadw creithiau, a allai fod yn ddifrifol ac yn anffurfiol, ac aeth llawer yn ddall o ganlyniad i'r haint.

Nid oedd unrhyw wellhad na thriniaeth ar gyfer y frech wen. Ac nid oes dim o hyd.


Un o'r lladdwyr gwaethaf yn hanes y ddynoliaeth

Nid yw tarddiad y frech wen yn hysbys.

Daw'r dystiolaeth gynharaf ar gyfer y clefyd gan y Pharo Ramses V o'r Aifft, a fu farw yn 1157 B.C., ac y mae ei olion mymiedig yn dangos brechau tebyg i'r frech wen ar y croen.

Yn Ewrop, amcangyfrifir bod y frech wen wedi hawlio 60 miliwn o fywydau yn y 18fed ganrif yn unig. Yn yr 20fed ganrif, lladdodd y frech wen tua 300 miliwn o bobl yn fyd-eang.

Ar ôl creu anhrefn yn Ewrop ac Asia yn bennaf dros dri mileniwm, roedd y frech wen yn arbennig o ddinistriol mewn poblogaethau nad oeddent erioed wedi dod i gysylltiad â'r feirws o'r blaen ac felly nid oedd ganddynt unrhyw imiwnedd naturiol yn erbyn y clefyd.

Felly, cyfrannodd y frech wen at ddirywiad yr ymerodraethau hynafol yng Nghanol a De America, yn dilyn y goresgynnwyr Ewropeaidd ar ôl teithiau Christopher Columbus i'r Byd Newydd. Ar ddechrau'r 16eg ganrif, credir fod mwy na thair miliwn o Azteciaid wedi ildio i'r frech wen yn yr hyn sydd bellach yn Mecsico. Yn yr un modd, lladdodd y frech wen lawer o boblogaeth yr Inca yn yr hyn a elwir heddiw yn Periw.

Ganrif yn ddiweddarach, roedd y frech wen (ynghyd â chlefydau 'Ewropeaidd' eraill fel y frech goch, y pla a brech yr ieir) wedi difa'r bobl frodorol yng Ngogledd America. Ac ar ôl dyfodiad yr Ewropeaid cyntaf yn Awstralia yn y 18fed ganrif, lladdwyd cyfran fawr o'r Awstraliaid Brodorol gan y frech wen.

Gellid dadlau nad oes unrhyw glefyd heintus arall wedi cael mwy o effaith ar hanes y byd.


Y treial clinigol cyntaf a Thywysoges Cymru

cms_pcf_1548018_c (2).jpg

Y Fonesig Mary Pierrepont, y Fonesig Mary Wortley-Montagu, ar ôl Jonathan Richardson yr iau, ar ôl 1719 | | Neuadd Middlethrope Delweddau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Un o'r dulliau cyntaf ar gyfer rheoli'r frech wen oedd 'brechu rhag y frech wen', arfer a enwyd ar ôl feirws variola. Wrth frechu rhag y frech wen, roedd pobl nad oeddent erioed wedi cael y frech wen yn cael deunydd o ddoluriau'r frech wen o gleifion heintiedig, trwy grafu'r deunydd i'w braich neu ei anadlu drwy'r trwyn.

Ar ôl brechu rhag y frech wen, roedd pobl a gafodd driniaeth fel arfer yn datblygu symptomau'r frech wen - mewn llawer o achosion ar ffurf ysgafnach ond lladdwyd rhai pobl hefyd gan y driniaeth! Ond er hynny, bu farw llai o bobl o'r brechu ei hun na phe baent wedi dal y frech wen, felly ar y cyfan mae'n debyg ei fod yn werth y risg.

A fyddech wedi'i gymryd? Neu ei roi i'ch plant?

Ymddengys fod brechu rhag y frech wen wedi'i arfer yn Tsieina ers cannoedd o flynyddoedd ac roedd hefyd yn digwydd yn yr India, y Dwyrain Canol a rhannau o Affrica erbyn dechrau'r 18fed ganrif.

Dysgodd y Fonesig Mary Wortley-Montagu, gwraig Llysgennad Prydain i'r Ymerodraeth Ottoman (Twrci erbyn hyn), am frechu rhag y frech wen tra'n byw yn Istanbwl a phenderfynodd gyflwyno'r dull achub bywyd hwn ym Mhrydain.

Roedd ei brawd ei hun wedi marw o'r frech wen, ac roedd hi ei hun wedi bod yn ddigon ffodus i wella o glefyd difrifol yn 26 oed - ond eto cafodd ei hwyneb ei anffurfio gan y creithiau.

Yn 1718 a 1721, profodd effaith brechu rhag y frech wen ar ei dau blentyn, gan achub eu bywydau yn ôl pob tebyg. Ffaith hwyl: Byddai merch y Fonesig Mary yn cael mab yn ddiweddarach a fyddai'n dod yn Ardalydd 1af Bute ac yn berchennog ar Gastell Caerdydd.

Yna, er mwyn argyhoeddi'r Brenin George I o ddiogelwch brechu rhag y frech wen, cafodd y Fonesig Mary fynediad at grŵp o chwe charcharor yn aros i gael eu crogi. Roeddent wedi cael addewid o ryddid pe baent yn goroesi'r driniaeth arbrofol. Yn wir, gwnaethant i gyd yn dda ac fe'u rhyddhawyd o'r carchar. Cafodd ail astudiaeth ei chynnal ar un ar ddeg o blant amddifad.

Dyma dreialon clinigol cyntaf Ewrop, fel y byddem yn eu galw heddiw – profion ar weithdrefn gyffuriau neu feddygol newydd ar grwpiau o bobl i weld a yw'n ddiogel ac yn effeithiol. Fodd bynnag, nid yw'n glir fod y cyfranogwyr wedi gwirfoddoli'n wirioneddol ar gyfer yr arbrofion hyn, ac a oeddent wedi cael gwybod am risgiau'r driniaeth. Yn yr ystyr fodern, byddai astudiaethau'r Fonesig Mary yn cael eu hystyried yn 'anfoesegol'.

Yn y pen draw, caniataodd y brenin i Dywysoges Cymru drefnu fod dwy o'i merched (wyresau'r brenin) yn cael eu trin, gan iddo gael ei galonogi gan lwyddiant astudiaethau'r Fonesig Mary. A chyda'r cyhoeddusrwydd cysylltiedig o drin y teulu Brenhinol, dechreuodd yr arfer ledaenu, a dilynodd eraill a gwella'r arfer ymhellach.


Y caethwas a'r gweinidog

800px-Boylston_-_An_Historical_Account_of_the_Small-pox_Inoculated_in_New_England_(teitl).png

"Adroddiad hanesyddol o'r frech wen a frechwyd yn New England"

gan Zabdiel Boylston (1726)

Ochr yn ochr â gwaith y Fonesig Mary yn Lloegr, byddai dyn o Affrica yn achub Boston yn Lloegr Newydd rhag y frech wen. Roedd wedi'i werthu i'r gweinidog dylanwadol Cotton Mather yn 1706 a'i enwi'n "Onesimus"; mae enw go iawn y caethwas, ei wlad enedigol a'i ddyddiad geni yn parhau'n anhysbys.

Disgrifiodd Onesimus i Mather yr arfer o frechu rhag y frech wen gan ei fod yn cael ei gyflawni gan lawer o gymdeithasau yn Affrica Is-Sahara, ac fel prawf dangosodd iddo'r marc yr oedd y brechu wedi'i adael ar ei groen.

Pan gafodd Boston ei daro'n arbennig o galed gan y frech wen yn 1721, wrth i longau nwyddau o Ewrop ddod â'r clefyd gyda nhw dro ar ôl tro, ceisiodd Mather argyhoeddi'r awdurdodau lleol i fabwysiadu'r weithdrefn i ddiogelu'r dinasyddion lleol. Fodd bynnag, roedd ymateb meddygon a swyddogion yn amheus iawn, a chafodd ei wawdio'n gyhoeddus am ddibynnu ar dystiolaeth (yr hyn yr oeddent yn ei hystyried yn annibynadwy) caethwas. Craidd amharodrwydd Boston i dderbyn y brechu oedd rhagfarn hiliol drom, ynghyd â chred grefyddol gref y byddai trin pobl iach yn ymyrryd yn uniongyrchol ag ewyllys Duw sef danfon epidemig y frech wen.

Er hynny, penderfynodd meddyg o'r enw Zabdiel Boylston gymryd y risg a chyflawni'r dull a ddisgrifiwyd gan Onesimus, yn gyntaf ar fab 6 oed Boylston ei hun (heb wybod bod y Fonesig  Mary yn Lloegr yn yr un modd wedi rhoi cynnig ar y weithdrefn yn gyntaf ar ei phlant ei hun), ac yna ar ddau o'i gaethweision. Aeth ymlaen i drin tua 280 o bobl, a phan darodd y frech wen, dim ond chwech o'r bobl a oedd wedi'u brechu fyddai'n marw. Roedd y gyfradd farwolaeth gymharol isel hon o 2.2% yn wahanol iawn i'r marwolaethau uchel yng ngweddill y boblogaeth oedd heb ei thrin, lle bu farw 14.3% o holl gleifion y frech wen. Roedd y gwahaniaeth clir yn cefnogi effaith warchodol y weithdrefn yn gryf, ac o ganlyniad fe'i mabwysiadwyd yn ehangach ar draws New England.

Daeth cydnabyddiaeth o gyfraniad Onesimus i wyddoniaeth feddygol yn 2016, pan gafodd ei roi ymhlith y "100 o Bostoniaid Gorau Erioed" gan gylchgrawn Boston.


Y llaethdy a mab y garddwr

Dr Eward Jenner yn cyflawni ei frechiad cyntaf, 1796. Paentiad olew gan Ernest Board. Oriel Casgliad Wellcome

Dr Eward Jenner yn cyflawni ei frechiad cyntaf, 1796. Paentiad olew gan Ernest Board.

Oriel Casgliad Wellcome

Dechreuodd y sail ar gyfer brechu go iawn yn 1796 pan sylwodd y meddyg o Loegr Edward Jenner ei bod yn ymddangos fod llaethforynion oedd wedi cael brech y fuwch, clefyd croen cymharol ysgafn a ddaliwyd o wartheg heintiedig, wedi cael eu diogelu rhag dal y frech wen.

Gwyddai Jenner wrth gwrs am frech rhag y frech wen, ac fe ddywedodd y gellid defnyddio amlygiad arbrofol i frech y fuwch oedd yn fwy diogel i ddiogelu rhag y frech wen.

Er mwyn profi ei ddamcaniaeth, cymerodd Dr Jenner ddeunydd o ddolur brech y fuwch ar law'r llaethforwyn Sarah Nelmes a'i roi ar fraich James Phipps, mab 9 oed garddwr Jenner. Fisoedd yn ddiweddarach, cafodd Phipps ei gyflwyno sawl gwaith i feirws variola gan Jenner. Ond ni ddatblygodd James y frech wen erioed.

Arbrawf anfoesegol arall eto! Beth fyddai wedi digwydd pe bai'r bachgen wedi mynd yn sâl neu hyd yn oed wedi marw o'r frech wen? A fyddech wedi cytuno i gael eich cyflwyno i glefyd marwol? Neu a gafodd eich plentyn eich hun ei drin fel hyn?

Cafwyd rhagor o arbrofion llwyddiannus gyda mwy o bobl, ac yn 1801 cyhoeddodd Jenner ei ganfyddiadau, gan fynegi ei obaith mai 'dileu'r frech wen, pla mwyaf ofnadwy dynol ryw, fyddai canlyniad terfynol yr arfer hwn.'

Hefyd, bathodd Jenner y term 'vaccine' ar gyfer ei ddarganfyddiad, yn seiliedig ar y gair Lladin am fuwch(vacca).

Mae'r gweddill yn hanes. Cafodd Jenner yr holl enwogrwydd. Pylodd ymdrechion y Fonesig Mary, a osododd y sylfaen ar gyfer ei waith, i ebargofiant cymharol.


Y clefyd heintus cyntaf i gael ei ddileu

Gydag amser, cafodd brechu ei dderbyn yn gyffredinol, ac yn raddol disodlodd yr ymdrechion cyntefig blaenorol i frechu rhag y frech wen.

Yn rhyfedd iawn, dangosodd dadansoddiad diweddar o sampl 100 oed o frechlyn y frech wen ei fod mewn gwirionedd yn 99.7% yn debyg i feirws ceffylau, nid brech y fuwch! Ar ryw adeg mewn hanes mae'n rhaid bod rhywun wedi defnyddio deunydd wedi'i ynysu oddi wrth geffylau yn hytrach na gwartheg ond mae'n amhosibl olrhain yn ôl nawr pam a phryd y digwyddodd hyn. Mae hynny'n golygu fod y gair 'vaccine' yn anghywir mewn gwirionedd, a dylem yn hytrach ei alw'n 'equination', ar ôl y gair Lladin am geffyl(equus)...

Gydag ymdrechion cynyddol i frechu pobl, ac wrth i ddiagnosio ac ynysu cleifion heintiedig wella'n gyffredinol , dechreuodd niferoedd y frech wen leihau. Ac erbyn yr 1950au, roedd y clefyd wedi diflannu yng Ngogledd America ac Ewrop.

Yn 1959, dechreuodd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) gynllun i waredu'r byd cyfan o'r frech wen a sefydlu system effeithiol o oruchwylio achosion er mwyn gallu monitro achosion o'r clefyd, a threfnu ymgyrch frechu dorfol fyd-eang. Ychydig fel yr ymdrechion presennol i imiwneiddio pawb rhag Covid-19.

Ac felly un diwrnod yn 1977, digwyddodd Ali Maow Maalin, cogydd ysbyty yn nhref Merca yn Somalia, ddod i gysylltiad â dau glaf lleol a oedd wedi cael y frech wen. 10 diwrnod yn ddiweddarach, datblygodd dwymyn ei hun - a chafodd ddiagnosis anghywir yn gyntaf gyda malaria, yna brech yr ieir. Roedd y frech wen eisoes yn glefyd eithaf prin bryd hynny, a byddai llawer o feddygon wedi methu gweld yr arwyddion nodweddiadol! Ond fe wnaeth staff arbenigol ei ddiagnosio'n gywir o'r diwedd gyda'r frech wen a'i ynysu fel na fyddai'n trosglwyddo'r clefyd i unrhyw un arall. Gwellodd yn llwyr.

Ef oedd y person olaf yn y byd i fod wedi cael y frech wen yn naturiol.

Yna, yn 1978, aeth menyw o'r enw Janet Parker a fu'n gweithio fel ffotograffydd meddygol ym Mhrifysgol Birmingham, un llawr uwchben yr Adran Microbioleg Feddygol, yn sâl un diwrnod yn sydyn. Datblygodd frech ychydig ddyddiau'n ddiweddarach ond ni chafodd ddiagnosis o'r frech wen am wythnos arall. Yn anffodus, bu farw ar 11 Medi 1978.

Awgrymodd ymchwiliad yn ddiweddarach fod Janet, mae'n debyg, wedi'i heintio naill ai trwy system awyru'r adeilad yr oedd yn gweithio ynddo, neu trwy gysylltiad uniongyrchol â'r feirws wrth ymweld â'r labordy microbioleg, lle roedd staff a myfyrwyr yn digwydd cynnal ymchwil ar y frech wen.

Janet oedd y person olaf erioed i farw o'r frech wen.

Wedi i Ali wella ac yn dilyn marwolaeth Janet ni chafwyd unrhyw achosion pellach o'r frech wen yn unman yn y byd. Yn 1980, bron i ddwy ganrif ar ôl gwaith arloesol Edward Jenner, cyhoeddodd Sefydliad Iechyd y Byd yn swyddogol fod y byd yn rhydd o'r frech wen.

Y frech wen oedd y clefyd heintus cyntaf i gael ei ddileu o hanes. Hyd yma, dyma'r unig haint dynol sydd wedi cael ei ddileu erioed.

Gadewch i ni weld a allwn ni gyflawni'r un peth gyda polio, y frech goch a Covid-19!

C_UWT3JVoAE4YVb.jpg

Eisiau dysgu mwy? Edrychwch ar ein llinell amser o glefydau heintus, triniaethau a brechlynnau drwy hanes!


Matthias Eberl

Mae'r Athro Eberl yn arwain grŵp ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn ymchwilio i'r ymateb imiwnedd i heintiau bacteriol acíwt, ac mae'n aelod craidd o'r Superbugs tîm.

Blaenorol
Blaenorol

Stori Darganfod Gwrthfiotigau: Rhan 1