Gwrthfiotigau: Bwledi Hud

Gwrthfiotigau: efallai y darganfyddiad meddygol pwysicaf erioed.

Gwrthfiotigau yw ein prif arf yn y rhyfel yn erbyn heintiau bacterol.

Cemegau sy'n ymosod ar facteria yw gwrthfiotigau. Mae rhai yn atal y bacteria rhag tyfu. Mae rhai yn lladd y bacteria. Yn y ddwy sefyllfa, y canlyniad yw fod gwrthfiotigau yn atal bacteria rhag achosi clefyd heintiau, ac yn ein helpu i drin cleifion sâl.

Mae'r term 'gwrthficrobaidd' yn golygu unrhyw gemegyn (gan gynnwys gwrthfiotigau) sy'n lladd unrhyw fath o ficro-organeb, boed yn facteria, ffwng neu rywbeth arall.

 

Sut mae gwrthfiotigau'n gweithio?

Enghraifft o sut mae gwrthfiotigau'n gweithio — yn union fel allwedd eich tŷ a chlo'r drws ffrynt!

Enghraifft o sut mae gwrthfiotigau'n gweithio — yn union fel allwedd eich tŷ a chlo'r drws ffrynt!

Gadewch i ni feddwl am eich drws ffrynt. Mae allwedd eich tŷ yn ffitio'ch clo yn berffaith ac yn agor eich drws, iawn? Ni fydd eich allwedd yn ffitio unrhyw ddrws arall ar y stryd. Ac ni fyddai unrhyw allwedd arall yn ffitio clo eich drws chi. Felly, mae eich allwedd drws ffrynt, a'r clo, y'r hyn rydym yn ei alw'n BENODOL i'w gilydd.

Mae gwrthfiotigau'n gweithio yn UNION yr un ffordd. Mae gan wrthfiotigau (yr allwedd) darged penodol (y drws) naill ai ar gell facteria, neu ynddi. Targed y maent yn gweddu iddo'n berffaith. Mae gwrthfiotigau'n hela eu targed, ac yn cydio'n dynn, a'i rwymo'n dynn.

Mae targedau gwrthfiotig bron bob amser mewn rhannau pwysig iawn o'r gell facteria. Fel hynny maen nhw'n achosi cymaint o ddifrod â phosib!

Mae'r gwrthfiotigau naill ai'n lladd y bacteria, neu'n gwneud iddynt dyfu'n araf iawn. Mae hynny'n golygu nad yw'r bacteria bellach yn dda am achosi salwch, ac felly mae'r haint yn cael ei drin!!!

 

Gemau Lladd yr Haint!

Pam na wnewch chi roi cynnig ar rai o'n gemau isod!

Gweithredwch fel gwrthfiotig a hela'r heintiau diflas hynny — lladdwch y bacteria cyn iddynt eich cael chi'n gyntaf!

Anfonwch lun o'ch cynnydd atom neu ei rannu ar Twitter @CUsuperbugs!

Cliciwch ar y delweddau isod i chwarae'r gemau.

 

Ymosodiad Gwrthfiotig 2D

 

Ymosodiad Gwrthfiotig 3D


➡️ Gwnewch y cwis Emoji

Pa fath o wrthfiotigau sydd ar gael? Beth maen nhw'n ei wneud? A pham mae'n rhaid iddynt gael enwau mor gymhleth?