Trasiedi Typhoid Mary

Cafodd Mary Mallon ei galw'n fygythiad cyhoeddus a'i charcharu ar ôl i ymlediadau teiffoid ar draws Dinas Efrog Newydd gael eu cysylltu â'i phresenoldeb yn y gegin. A gafodd ei demoneiddio yn annheg?

 
Riverside_Hospital_North_Brother_Island.jpg

Erbyn hyn, mae North Brother Island, lle bu Mary Mallon yn byw am 26 mlynedd, a lle bu farw, yn noddfa i adar dyfrol. Diolchiadau: Reivax.

Mae North Brother Island yn ddeigryn 16 erw o dir yn Afon Dwyrain Efrog Newydd, hanner ffordd rhwng y Bronx a'r ynys garcharu enwocach honno, Riker'. Heddiw, mae'r ynys yn anghyfannedd, yn noddfa i adar dyfrol. Mae adeiladau brics coch hen Ysbyty Glan yr Afon yn fylchog, ac yn llawn dodrefn wedi pydru, yn tagu o kudzu. Caewyd y cyfleuster yn yr 1960au, ond cyn hynny cafodd yrfa amrywiol yn gofalu am gleifion: cleifion y frech wen, dioddefwyr twbercwlosis, arddegwyr yn gaeth i gyffuriau.

Am fwy na chwarter canrif, bu'n gartref gorfodol hefyd i fenyw, nad oedd yn glaf nac yn garcharor, a elwid yn Typhoid Mary.


Roedd 4% o bobl yn dal i gario bacteria yn eu cyrff ar ôl gwella o haint teiffoid, gan eu gwneud yn ffynonellau posibl o achosion newydd.


Roedd Mary Mallon, mewnfudwraig o'r Iwerddon, yn dri deg saith oed pan gyrhaeddodd North Brother Island yn 1907 ac, yn wahanol i gleifion eraill yr ysbyty, nid oedd yn dangos unrhyw symptomau o gwbl. Credai fod cael ei chaethiwo yno mewn byngalo un ystafell yn garchariad na ellid ei gyfiawnhau. Yn 1909 ysgrifennodd at ohebydd: "Doeddwn i erioed wedi cael teiffoid yn fy mywyd, ac rwyf bob amser wedi bod yn iach. Pam ddylwn i gael fy alltudio fel y gwahanglwyf a'm gorfodi i fyw ar ben fy hun gyda dim ond ci yn gwmni?"

Yr ateb mwyaf plaen oedd bod Mary, cogydd domestig, yn cael ei hystyried yn fygythiad i iechyd y cyhoedd.

As t-samhradh 1906, bha i ag obair do Theàrlach Henry Warren, bancair ann an Long Island. San Lùnastal ghabh sianar san teaghlach fiabhras typhoid, galar a mharbhadh 13,000 duine sna SA air a’ bhliadhna sin. Ach, bha e na bu choltaiche ann an slumaichean bochda seach ann an coimhearsnachdan spaideil Oyster Bay. Goirid an dèidh sin, chaidh rannsachair fhastadh airson lorg fhaighinn air tùs an sgapaidh seo ris nach robh dùil ann an dachaigh Warren.


Yr ymchwilydd oedd George Soper, peiriannydd sifil a chanddo brofiad o olrhain cynnydd epidemiolegol teiffoid. Gwiriodd fod cyflenwad llaeth yr aelwyd yn lanwaith a phrofodd ddamcaniaeth fod dŵr y ffynnon wedi'i halogi. Cynhaliodd gyfweliadau, rhoddodd linell amser at ei gilydd, a dyma daro ar ei brif ddrwgdybiedig.

Fhuair e a-mach gun do thòisich an typhoid nuair a thàinig an còcaire ùr. Chaidh innse dha cuideachd gum biodh Màiri Mallon tric a’ dèanamh mhìlsean le reòiteag agus sliseagan peitse ùr – bha fios aig Soper gun robh biadh nach deach a bhruich math airson Salmonella typhi, am bacterium a dh’adhbharaich an galar, a ghiùlan.

Palodd Soper yn ddyfnach i orffennol Mary, a datgelodd batrwm diddorol: "Yn ystod y deng mlynedd diwethaf gwn i sicrwydd ei bod wedi gweithio i wyth teulu," byddai'n ysgrifennu yn 1907. " Yn saith o'r rhain, mae teiffoid wedi ei dilyn. Mae hi bob amser wedi dianc yn yr epidemigau y mae wedi'u cysylltu â hwy."

Aeth Soper i gartref cyflogydd newydd Mary yn Park Avenue ym mis Mawrth 1907 a dywedodd wrthi ei bod yn lledaenu teiffoid; mynnodd samplau o'i hysgarthion, wrin a gwaed. Mynnodd Mary, a oedd yn teimlo'n berffaith iach ac nad oedd erioed wedi clywed am 'gludwyr iach' haint, cysyniad newydd i wyddonwyr ar y pryd, fod ei ddatganiad  yn un chwerthinllyd ac fe'i danfonodd oddi yno, gyda fforc yn ei llaw.

Ag yntau'n rhwystredig, aeth Soper â nodiadau ei ymchwil i awdurdodau iechyd y ddinas. Dyma nhw'n galw ar yr heddlu i'w cynorthwyo. Pan ddatgelodd profion gorfodol fod gan Mary, yn wir, lefelau uchel o bacilli teiffoid yn ei hysgarthion, fe'i danfonwyd i North Brother Island.

Typhoid Mary.jpg

Darlun o Mary Mallon yn 1909, a elwid yn "Typhoid Mary," a gyhoeddwyd yn y New York American.


Nid oedd pawb ar y pryd yn ystyried ei charcharu'n deg nac yn angenrheidiol. Yn 1909, ysgrifennodd W.P Mason o Sefydliad Polytechnig Rensselaer yn Science fod tua 4% o bobl yn parhau i gario bacteria yn eu cyrff ar ôl gwella o haint teiffoid, oedd yn eu gwneud yn ffynonellau posibl o achosion newydd.

"Ar hyn o bryd mae'n debyg bod 560 o bobl o'r fath yn nhalaith Efrog Newydd... Ni allwn gadw'r holl bobl hyn yn y ddalfa, felly
pam dewis a charcharu un."

Y flwyddyn ganlynol, cytunodd barnwr: Rhyddhawyd Mary ar yr amod nad oedd yn gweithio fel cogydd mwyach.

Ond yn 1915, pan wnaeth ymlediad o teiffoid yn Ysbyty Mamolaeth Sloane bump ar hugain o gleifion yn sâl a lladd dwy, canfuwyd bod Mary Mallon yn cael ei chyflogi yn y ceginau yno. Trodd y farn gyhoeddus ar "Typhoid Mary". "Y tiwb meithriniad dynol hwn," oedd disgrifiad un gohebydd ohoni; "ffatri twymyn teiffoid ar ddwy goes" meddai un arall.

Fe'i hanfonwyd yn ôl i North Brother Island, a thair blynedd ar hugain yn ddiweddarach, bu farw yno, ar ei phen ei hun.

Mae pandemig COVID-19 wedi gwneud y cysyniad o gwarantîn yn anarferol o normal heddiw – ffaith sy'n lleddfu ei phoen: mae unigrwydd yn llai unig pan mae llawer yn ei brofi. Ond mae COVID-19 hefyd wedi tanlinellu'r ffaith fod epidemigau'n tueddu i amlygu anghydraddoldebau cymdeithasol sy'n bod yn barod, yn ogystal ag ail-godi'r risg o adnabod rhai cymunedau ag iddynt y bygythiad pathogenig.

A oedd yn rhy hawdd gwneud  menyw ddosbarth gweithiol fewnfudol yn gyfrifol am - hyd yn oed yn gyfystyr â - chlefyd?

Yn 1919 anogodd George Soper ei gyfoedion i fod yn ofalus wrth ddewis eu cogyddion, yr roedd pob un ohonynt, fe awgrymodd, yn smyglo'r bygythiad o heintio cudd. "Ychydig iawn a wyddom amdanynt fel arfer," ysgrifennodd.

Mae'r hanesydd meddygol Judith Walzer Leavitt yn ysgrifennu, "Ni chafodd Mary Mallon ei hynysu am ei bod yn fenyw, ond roedd ei benyweidd-dra yn ffactor bwysig a gyfrannodd at yr hyn a ddigwyddodd iddi". Ni chafodd ychwaith ei rhoi dan glo am ei bod yn fenyw sengl, weithiol, Gatholig, a anwyd yn Iwerddon, meddai Leavitt – ond i'r gweithwyr proffesiynol dosbarth canol y daeth ar eu traws, creodd y dynodion cymdeithasol hyn gasgliad o ddisgwyliadau ac ysgogodd rai rhagfarnau... a rhyngddynt helpodd hynny arwain at eu canfyddiad ohoni fel rhywun gwyredig a dibwys."

Erbyn marwolaeth Mary Mallon, roedd cannoedd o gludwyr iach wedi cael eu hadnabod. Roedd o leiaf un dyn, perchennog popty bara yn Efrog Newydd, fel Mary, wedi torri gwaharddebau rhag gweithio gyda bwyd.

Dim ond Mary gafodd ei charcharu.


Cyhoeddwyd y stori hon yn wreiddiol ar 18 Mehefin 2021 gan Gavi, y Gynghrair Frechu.

https://www.gavi.org/vaccineswork/long-view-tragedy-typhoid-mary


Maya Prabhu

Mae Maya Prabhu yn awdur o dras Indiaidd ac Almaenaidd. Fe'i magwyd yn bennaf yn ne a dwyrain Affrica, a dechreuodd ei gyrfa yn Cenia ac Uganda. Mae hi bellach yn byw yn Bangalore gyda'i phartner a'i chi. Mae gan Maya radd israddedig (MA Cantab) mewn Hanes o Brifysgol Caergrawnt, ac MSc mewn Cysylltiadau & Chyfryngau Rhyngwladol o Ysgol Economeg Llundain. Ynghyd â'r Saesneg y mae'n well ganddi ei defnyddio, mae ganddi Almaeneg rhugl, Ffrangeg rhydlyd, ac mae'n ceisio dysgu Hindi. 

Blaenorol
Blaenorol

John Snow a Dolen Pwmp Iechyd Cyhoeddus

Nesaf
Nesaf

Gwawr yr Angylion ym Mrwydr Shiloh