Felly Beth yw Imiwnoleg?

Beth allwn ni ei wneud i ymladd heintiau.

Ar ein llwybr antur hyd yma, rydych wedi dysgu am ficrobau, sut maen nhw’n gallu achosi clefydau a sut maen nhw’n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau. 🦠🤒💊

Os ydym am gyfyngu lledaeniad heintiau a gwella ansawdd bywyd pawb, mae sawl peth cymharol syml y gallwn i gyd eu gwneud. Efallai eu bod yn swnio'n hawdd ond ar raddfa fyd-eang gallant fod yn heriol i'w cyflawni, yn enwedig mewn gwledydd incwm isel a chanolig:

  • Mynediad at ddŵr glân 🚰

  • Gwell hylendid i bobl ac i dda byw 🛁

  • Diagnosis gwell a chyflymach o heintiau a amheuir 🔬

  • Triniaethau wedi'u targedu gan gynnwys gwrthfiotigau newydd 👩🏽 🔬

  • Gwell defnydd o wrthfiotigau sy'n bodoli eisoes 💊

  • Ac, yn olaf ond nid lleiaf, brechu rhag clefydau y gellir eu hatal 💉

Er mwyn gallu deall brechlynnau, mae angen i ni edrych yn gyntaf ar beth yw'r system imiwnedd a'r hyn y mae'n ei wneud.


Beth yw imiwnoleg?

Imiwnoleg yw astudiaeth o’r system imiwnedd.

Mae'r system imiwnedd yn ein hamddiffyn rhag haint drwy wahanol linellau amddiffyn. Mae bod yn 'imiwnedd' yn llythrennol yn golygu cael ei ddiogelu rhag clefydau — o ganlyniad i haint blaenorol o'r un math neu rhag brechu.

O waith arloesol Edward Jenner yn y 18fed ganrif a fyddai yn y pen draw yn arwain at frechlynnau modern (arloesedd sydd, mae'n debyg, wedi achub mwy o fywydau nac unrhyw ddatblygiad meddygol arall), mae imiwnoleg wedi newid wyneb meddygaeth fodern.

Mae imiwnoleg yn parhau i wella ein dealltwriaeth o sut i ddiagnosio a thrin materion iechyd sy'n amrywio o haint a llid i alergeddau ac awtoimiwnedd (pan fydd eich system imiwnedd yn ymosod ar eich organau eich hun), a hyd yn oed gyflyrau fel canser, clefyd y galon a dementia.


Y system imiwnedd

Mae'r system imiwnedd yn system gymhleth o strwythurau a phrosesau sydd wedi esblygu i'n hamddiffyn rhag clefydau, yn enwedig felly rhag heintiau a achosir gan firysau, bacteria a pharasitiaid. 🦠🪱

Mae swyddogaeth y cydrannau moleciwlaidd a chellog sy'n ffurfio'r system imiwnedd wedi'i rhannu'n fecanweithiau sy'n cynhenid i organeb, ac ymatebion sy'n ymaddasol i bathogenau penodol.

I ddeall rôl y system imiwnedd yn well, cliciwch ar y llun isod i wylio fideo ardderchog ar Vimeo (mae'n agor mewn ffenestr newydd).

Y Systemau Imiwnedd Cynhenid ac Addasol - Prosiect Gwneuthurwyr Brechlynnau.
Cliciwch
yma neu ar y ddelwedd uchod i wylio'r fideo.


➡️ Brechu

Darganfyddwch beth yw brechlynnau a sut maen nhw'n gweithio