Malaria ac Artemisinin

Hanes byr o'r cyffuriau yn erbyn malaria a sut mae ganddynt gysylltiad agos â rhyfel

 

Er syndod, yn yr oes fodern, mae gan un o'r cyffuriau gwrth-heintus pwysicaf wreiddiau mewn meddygaeth Tsieineaidd draddodiadol. Mae'n cymryd ymdrech sylweddol i wahanu'r cyffur buddugol o ysgarthion gwiwerod hededog a chynhwysion od eraill sy'n rhan o'r apothecari Tsieineaidd traddodiadol. Yn wir, gall gymryd mwy na dwy fil o wahanol feddyginiaethau llysieuol i ddod o hyd i un sy'n gweithio. Yn ffodus, ymgymerodd Youyou Tu a'i thîm â'r dasg epig hon, gan roi Artemisinin i ni, y driniaeth malaria safonol erbyn hyn.


Hanes Malaria

parasitolegmalariapfalciparumpritt05.jpg

Parasitiaid malaria plasmodium falciparum (cylchoedd porffor) y tu mewn i gelloedd gwaed coch (cylchoedd pinc bach), fel y'u canfuwyd mewn rhwbiad gwaed wedi'i staenio â Giemsa. Y gell fwy tuag at y chwith uchaf yw granulocyt niwtrophil, y math mwyaf cyffredin o gell gwaed gwyn mewn pobl. — Llun gan Bobbi Pritt, Pathology Outlines.

Mae Malaria wedi bod gyda phobl cyhyd ag y bu pobl. Yn wir, mae'n rhagddyddio'r ddynoliaeth – yn dilyn darganfyddiad diweddar parasitiaid malaria wedi'u dal mewn ambr o'r cyfnod Paleogene, ddeng miliwn mlynedd ar hugain yn ôl. Mae testunau Groeg hynafol a Tsieineaidd hynafol yn disgrifio heintiau malaria. Cafodd yr Arglwydd Nelson, Genghis Khan, Dr Livingstone, Mahatma Gandhi a Christopher Columbus oll byliau o'r clefyd. Mae'r enw'n deillio o "aer gwael" — Mal aria yn Lladin Canoloesol — oherwydd yr achosion mewn ardaloedd corsiog. Un o'r ystadegau mwyaf trawiadol yw'r honiad fod malaria wedi lladd hanner yr holl bobl a fu fyw erioed. Gwnaed yr honiad rhyfeddol hwn am y tro cyntaf mewn erthygl sylwebaeth yn Nature yn 2002, ond heb unrhyw gyfeiriad i'w gefnogi. Yn anffodus, mae'n debyg nad yw'r honiad yn gwbl gywir.



Cyffuriau cynnar

Nodweddir haint Malaria gan dwymyn a blinder – sy'n digwydd oherwydd bod y celloedd gwaed coch yn cael eu dinistrio. Fel gyda heintiau dynol eraill, am lawer o'i hanes hir, roedd triniaethau malaria yn nonsens llwyr – byddai meddygon yn yr Oesoedd Canol yn troi at eu pecyn gwaith arferol o chwydu, gollwng gwaed a maglu. Fodd bynnag, darganfu pobl Quechua, brodorion o Dde America, y gallai rhisgl coeden Quina-quina leddfu'r cryndod yn ystod haint malaria. Gwelodd Agostino Salumbrino, mynach Jeswit ac apothecari, y defnydd hwn o'r rhisgl a'i gludo'n ôl i Rufain yn driniaeth ar gyfer malaria. I ddechrau fe'i cymerwyd yn drwyth o risgl sych, wedi'i hydoddi mewn gwin. Fodd bynnag, yn 1820, aeth dau ymchwilydd o Ffrainc, Pelleter a Caventou, ati i ynysu cynhwysyn gweithredol y rhisgl, cwinin, gan ddechrau ei ddefnyddio yn gyffur proffylactig. Roedd yn ofynnol i'r trefedigaethwyr Prydeinig yn yr India gymryd cwinin, a darganfyddasant fod ei gymysgu â siwgr a dŵr soda yn ei wneud ychydig yn fwy derbyniol, yn enwedig ar ôl ychwanegu jin!


Cwinin, caethwasiaeth a rhyfel

Mae malaria a cwinin yn rhan annatod o hanes caethwasiaeth a rhyfel. Cyfrannodd amlder malaria yn Ne America yn ystod y cyfnod trefedigaethol (1600-1700) at y ddibyniaeth ar gaethweision Affricanaidd mewn Trefedigaethau Deheuol, oherwydd eu bod yn fwy ymwrthol na threfedigaethwyr gwyn. Roedd cwinin hefyd yn caniatáu i Ewropeaid gwyn archwilio Gorllewin Affrica, a ddisgrifiwyd cyn hynny yn fedd y dyn gwyn oherwydd bod malaria mor gyffredin. Daeth rhisgl cinchona yn adnodd gwerthfawr iawn ac roedd llywodraeth Periw yn gwahardd allforio'r coed. Fodd bynnag, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, llwyddodd llywodraeth yr Iseldiroedd i ddwyn y planhigion a sefydlu planhigfeydd yn Indonesia, gan greu monopoli yn y bôn – a chynhyrchu 22 miliwn o bwysi o risgl cinchona erbyn yr 1930au. Yn yr Ail Ryfel Byd, daeth y coed hyn dan reolaeth Byddin Ymerodrol Siapan, gan leihau mynediad at y cyffur i luoedd y Cynghreiriaid. Dioddefodd milwyr Americanaidd yn Ne'r Môr Tawel a milwyr Prydeinig yn Burma lefelau uchel iawn yn ystod y rhyfel o'r herwydd; gan gynnwys fy nhadcu ar ochr fy mam Donald Dixon CBE, a gafodd malaria yn Tanzania yn 1943 ac y trodd ei groen yn felyn mewn ymateb i'r amnewidyn cwinin, Atabrine, a ddefnyddiodd. Yn 1944, datblygodd y fferyllydd Americanaidd ac enillydd Gwobr Nobel Robert Woodward ddull synthetig o gynhyrchu cwinin, a oedd yn lleddfu rhywfaint o'r pwysau ar y milwyr.


Clorocwin a the

Mae gan Cwinin sawl sgil-effaith gwenwynig ac fe'i newidiwyd am gyffur arall o'r enw Clorocwin a ddarganfuwyd yn yr 1930au ac a ddefnyddiwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn anffodus, fel y gwelir gyda'r gwrthfiotigau a'r cyffuriau gwrthfeirysol, dechreuodd parasitiaid malaria sy'n gwrthsefyll clorocwin ymddangos, ac roedd angen dewisiadau eraill. Dangosodd Ann Bishop ymwrthedd i clorocwin yng Nghaergrawnt am y tro cyntaf yn yr 1920au a'r 30au. Daeth llwyddiannau ymchwil Bishop er gwaethaf y rhwystrau a roddwyd arni oherwydd ei rhyw; er enghraifft, cafodd ei gwahardd rhag eistedd wrth y bwrdd yn ystod seibiannau te adrannol ac yn hytrach eisteddai ar y blwch cymorth cyntaf.


Rhyfel Fietnam ac artemisinin

Tu Youyou.jpg

Tu Youyou

, yn derbyn Gwobr Nobel mewn Ffisioleg neu Feddygaeth yn 2015.

Yang Wumin/Xinhua, drwy'r Associated Press

Chwaraeodd rhyfel ran allweddol yn y gwaith o ddarganfod y cyffur a ddisodlodd clorocwin, artemisinin. Yn 1967, lansiodd llywodraeth Tsieina y rhaglen ymchwil a ddarganfu artemisinin, prosiect 523, i helpu diogelu milwyr Byddin Gogledd Fietnam yn erbyn malaria yn ystod Rhyfel Fietnam. Youyou Tu oedd yn arwain y prosiect; yn rhyfedd iawn, enwodd ei thad hi'n Youyou ar ôl y sŵn y mae ceirw'n ei wneud pan fyddant yn bwyta planhigyn y wermod lwyd (Qinghao) y deilliodd artemisinin ohono. Yn ei hymdrechion i ddatblygu cyffuriau yn erbyn malaria, aeth Tu yn ôl i feddygaeth Tsieineaidd draddodiadol. Rhwng 1969 ac 1971 roedd Tu a'i thîm wedi profi dwy fil o ryseitiau. Cafodd lwyddiant gyda rysáit o'r enw 'Presgripsiynau Brys a Gedwir i Fyny Eich Llawes' gan Ge Hong oedd yn cynnwys mwydo dail Qinghao mewn dŵr. Addasodd Tu y dull echdynnu ac ynysu'r cyfansoddyn gweithredol, artemisinin gan ennill Gwobr Nobel iddi'i hun yn 2015. Mae'r cyffur bellach yn cael ei ddefnyddio'n eang i drin malaria ac mae wedi achub miliynau lawer o fywydau.

Felly, er gwaethaf hanes hir a chymhleth gyda'r ddynoliaeth, mae gennym gyffuriau sy'n gweithio yn erbyn malaria. Yn anffodus, mae straeniau o'r parasit sy'n gwrthsefyll y cyffur yn dechrau ymddangos. Gwelir hyn gyda llawer o heintiau eraill ac mae'n un o brif bryderon iechyd yr oes fodern. Ond gobeithio y gallwn oresgyn diolch i waith caled gwyddonwyr fel Youyou Tu.


John Tregoning

Mae Dr John Tregoning yn gweithio yng Ngholeg Imperial Llundain ac yn ddiweddar mae wedi cyhoeddi'r llyfr "Infectious" y mae'r stori hon wedi'i addasu ohono. Mae'r llyfr yn archwilio malaria a llawer o'r organebau microbaidd eraill all ein heintio a sut yr ydym ni wyddonwyr wedi ymladd yn ôl.

Blaenorol
Blaenorol

Y Longitude Prize

Nesaf
Nesaf

Yr Ysgyfaint Haearn