Roll Back Antimicrobial resistance Initiative (RBA Initiative)

Dodoma (Tanzania)

Ymladd ymwrthedd gwrthficrobaidd trwy hyrwyddo defnydd rhesymol o wrthficrobau.

Rhiant hapus yn datgelu sut mae ei merch yn lledaenu ymwybyddiaeth AMR

Mae Roll Back Antimicrobial resistance Initiative (RBA Initiative) yn fudiad anllywodraethol cofrestredig yn Tanzania sy’n gweithio i ymladd ymwrthedd gwrthficrobaidd. Mae ei bencadlys yn Dodoma, ynghanol y wlad, ac mae’r mudiad yn credu fod cymunedau gwledig a threfol yn chwarae rhan allweddol yn mynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd. Mae’r mudiad yn hyrwyddo defnydd rhesymol o wrthficrobau, mae’n cynnal ymchwil ar ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR), ac yn annog newid ymddygiad, gyda’r nod o leihau nifer yr heintiau sy’n cael eu hachosi oherwydd ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Mae RBA Initiative yn gwasanaethu mewn cymunedau gwledig a threfol, gan weithio gydag ysgolion, colegau a phrifysgolion, gweithwyr iechyd, unigolion preifat a gwneuthurwyr polisi ar draws sectorau amrywiol o iechyd i amaeth i’w hannog i ddod at ei gilydd a helpu atal ymlediad ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Dysgwch fwy yma am ein cydweithio rhwng RBA Initiative a Superbugs i sefydlu partneriaethau cadarn rhwng ysgolion yn y DG a Tanzania, ac i ddysgu gyda’n gilydd ac oddi wrth ein gilydd am heintiau, hylendid ac ymwrthedd gwrthficrobaidd.


Gweledigaeth

Arwain y frwydr yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd yn Affrica a chyfrannu at yr atebion byd-eang i’r bygythiad hwn i iechyd cyhoeddus.


 

Grŵp dawns traddodiadol AMR RBA Initiative

Aelodau clwb Menter RBA yn pwysleisio pwysigrwydd cael cyngor gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol cymwysedig cyn defnyddio gwrthfiotigau.

Trwy ganu a dawns draddodiadol mae’r grŵp hefyd yn sensiteiddio hylendid llaw gan mai dyna’r ffordd rataf o atal ymwrthedd gwrthficrobaidd. Mae’r gân mewn Gogo, tylwyth lleol yn rhanbarth Dodoma yng nghanolbarth Tanzania.


 

Rhaglen Ddogfen Clybiau Ysgol AMR

Yn ystod prosiect clybiau ysgol AMR Menter RBA 2020 cafodd tair agwedd eu hymchwilio: ymwybyddiaeth o ffyrdd i leihau AMR, gwybod na ellir defnyddio gwrthfiotigau i drin ffliw, a ffactorau sy’n cyfrannu at AMR.

Cyn yr hyfforddiant roedd gwybodaeth am hyn o dan 37%. Dri mis ar ôl yr hyfforddiant roedd lefel y wybodaeth wedi codi i dros 90%.


➡️ Llwybr Antur

Dewch mewn i fyd microbau!

Dysgwch fwy am facteria, sut maen nhw’n ein gwneud yn sâl/dost, a pham mae ymwrthedd i wrthfiotigau yn gymaint o broblem.

Gallwch gymryd y llwybr antur gam wrth gam. Neu ymchwilio’r pynciau mewn unrhyw drefn a fynnwch.

Chi sy’n penderfynu!

 

➡️ Superbugs Rhyngwladol

Mynd i’r afael â bygythiad byd-eang ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Rydym yn awyddus i weithio gydag eraill ar y ffordd orau o helpu codi ymwybyddiaeth ac addysgu cymunedau ledled y byd, trwy ddefnyddio cyfuniad o adnoddau ar-lein a gweithgareddau wyneb yn wyneb pwrpasol.

Dewch inni ei wneud gyda’n gilydd!