Dysgu Gydag ac Oddi Wrth Ein Gilydd
Partneriaeth Superbugs ysgolion yn y DG ac Iwerddon gydag ysgolion yn Tanzania.
Gwella dealltwriaeth a chodi ymwybyddiaeth o heintiau, hylendid ac ymwrthedd gwrthficrobaidd, ar y cyd â RBA Initiative.
Trwy gysylltu dosbarthiadau gwyddoniaeth yn y DG ac Iwerddon gydag ysgolion yn Tanzania, bydd disgyblion ac athrawon yn gallu archwilio pynciau gyda’i gilydd a dysgu am fywydau a blaenoriaethau ei gilydd. Trwy ddod â dysgwyr ac addysgwyr o gefndiroedd diwylliannol gwahanol at ei gilydd gobeithiwn y bydd eu profiad dysgu yn gryfach a mwy cofiadwy, ac y bydd yn creu argraff barhaol.
Mae'r gweithgareddau'n ymdrin â phwysigrwydd hylendid personol a golchi dwylo, rôl microbau yn yr amgylchedd, ac effaith gwrthfiotigau a brechu wrth reoli heintiau, a gellir eu darparu yn Saesneg, Cymraeg, Gwyddeleg neu Swahili!
Mae pecynnau cychwynnol a ddarperir i bob ysgol yn cynnwys deunyddiau dysgu printiedig, cyflenwadau ar gyfer arbrofion a gweithgareddau, a gwobrau hwyliog. Anogir ysgolion sy’n cymryd rhan hefyd i gyfnewid gwaith celf, llythyrau, cynnwys digidol ac anrhegion yn uniongyrchol â’i gilydd, i feithrin perthnasoedd hirhoedlog ac fel tystiolaeth o ddysgu llwyddiannus ar y cyd.
Cwrdd â'n hathrawon
Deunyddiau dysgu
“Your Amazing Immune System” - How it protects your body” (lawr lwythwch pdf)
“A guide to childhood vaccinations” (lawr lwythwch pdf)
Poster golchi dwylo (lawr lwythwch pdf)
Arbrofion cartref, dalenni lliwio a rhagor o wybodaeth (gwasgwch yma)
Diweddariad Prosiect
”Superbugs Pecynnau Croeso wedi'u hanfon allan" (Ionawr 2024)
"Ffeithluniau brechlyn yn Swahili" (Mawrth 2024)
"Cyfnod cyflwyno'r Prosiect Gefeillio" (Mehefin 2024)
"Rolling back ymwrthedd gwrthficrobaidd" (Awst 2024)
“Pontio gwyddoniaeth, addysg a chymuned yn y frwydr yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd” (Tachwedd 2024)
Diolchiadau
Cefnogir y prosiect hwn yn garedig gan Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau Prifysgol Caerdydd, Sefydliad PAR, Cymdeithas Microbioleg a DBG Mata & Gwyddoniaeth.
➡️ Llwybr Antur
Dewch mewn i fyd microbau!
Dysgwch fwy am facteria, sut maen nhw’n ein gwneud yn sâl/dost, a pham mae ymwrthedd i wrthfiotigau yn gymaint o broblem.
Gallwch gymryd y llwybr antur gam wrth gam. Neu ymchwilio’r pynciau mewn unrhyw drefn a fynnwch.
Chi sy’n penderfynu!
➡️ Superbugs Rhyngwladol
Mynd i’r afael â bygythiad byd-eang ymwrthedd gwrthficrobaidd.
Rydym yn awyddus i weithio gydag eraill ar y ffordd orau o helpu codi ymwybyddiaeth ac addysgu cymunedau ledled y byd, trwy ddefnyddio cyfuniad o adnoddau ar-lein a gweithgareddau wyneb yn wyneb pwrpasol.
Dewch inni ei wneud gyda’n gilydd!