
Hylendid

“Mam, rwy’n llwgu.” — “ Ewch i olchi eich dwylo yn gyntafCer i olchi dy ddwylo’n gyntaf! ”
Rydyn ni’n clywed hynna drwy’r amser. Felly pam mae ein rhieni’n dal i’n hatgoffa ni i olchi ein dwylo? Dewch inni weld pam mae mor bwysig.

Dylech hofran uwchben y llaw a gwasgu ar rannau gwahanol ohoni i gael gwybod am rai o’r micro-organebau sydd gennym ar ein dwylo!
Ar ôl dysgu hyn ydych chi eisiau bwyta eich bwyd o hyd heb olchi eich dwylo yn gyntaf?
Mae hylendid yn golygu gwneud pethau i gadw’n iach ac atal salwch rhag lledu. Mae hyn yn cynnwys golchi dwylo, cael baddon neu gawod, glanhau arwynebau a thrafod bwyd yn ofalus. Trwy arfer hylendid da, rydyn ni’n lleihau’r tebygrwydd o fynd yn sâl/dost ac yn helpu cadw ein hunain ac eraill yn iach. Mae hyn yn bwysig i lesiant pawb ac er mwyn cadw cymunedau’n ddiogel.
Gan ein bod yn cyffwrdd pethau yn ein hamgylchedd all gario microbau drwy’r amser, mae golchi ein dwylo yn dda yn arbennig o bwysig ar gyfer atal y microbau hyn rhag lledu. Mewn lleoedd fel ysbytai yn enwedig, mae golchi dwylo yn helpu cadw pawb yn ddiogel rhag afiechydon difrifol.
Os hoffech ddysgu celfyddyd golchi dwylo mewn ffordd hwyliog, gwyliwch ein fideo — a dysgwch y broses cam wrth gam gywir a argymhellir gan y GIG.
Gêm Ddirgel: O'r bragdy i'r siop hufen iâ, mae pobl yn mynd yn sâl. Dewch yn 'Swyddog Meddygol Iechyd' er mwyn darganfod tarddiad rhyfedd yr haint!
(Cysyniad a Sgript gan Claas Kirchhelle a Samantha Vanderslott. Datblygwyd y gêm gan Renderheads. Dyluniwyd gan Ben Leighton. Am ragor o gemau addysgol, nofelau graffig, ac animeiddiadau ar deiffoid a’r dwymyn goludd, ewch i Typhoidland)
➡️ Hylendid bwyd
Dysgwch am risgiau salwch a gludir gan fwyd a sut i'w hosgoi.