Hylendid bwyd

Yng ngwledydd Prydain yn unig, mae tua miliwn o bobl yn dioddef o afiechydon bwyd bob blwyddyn, mae 20,000 ohonynt yn gorfod cael triniaeth ysbyty ac mae 500 yn marw.

Mae salwch/tostrwydd bwyd, a elwir yn aml yn wenwyn bwyd, yn haint neu lid gastrointestinaidd a achosir gan fwyta neu yfed bwyd neu ddiodydd halogedig. Mae hwn fel arfer yn gyflwr aciwt sy’n digwydd yn sydyn iawn ac sy’n diflannu mewn ychydig ddyddiau. Caiff ei achosi gan amlaf gan gemegau peryglus, bacteria, feirysau neu barasitau. Er bod y rhan fwyaf o gleifion yn gwella heb orfod cael unrhyw ymyriad meddygol, gall rhai sefyllfaoedd waethygu a chymryd mwy o amser i’w datrys.

Dewch inni edrych yn awr ar ba gamau eraill y gallwn eu cymryd i leihau’r risgiau o gael salwch/tostrwydd bwyd.

Gwasgwch ar y lluniau isod i gael mwy o wybodaeth.


Dewch inni wneud arbrawf bach — dewch inni weld beth sy’n digwydd os nad yw bwydydd yn cael eu storio’n iawn. Beth ydych chi’n meddwl sy’n digwydd i fwyd os yw’n cael ei gadw’n rhy hir?

Edrychwch ar y fideos atal-amser ych a fi isod i weld rhai bwydydd yn pydru!

 

Gallwch wneud eich “arbrawf bara wedi llwydo” eich hun yn rhwydd iawn — yn yr ysgol neu gartref yn eich cegin eich hun (gyda chaniatâd perchnogion y gegin!).

Mae’r cyfarwyddiadau ar gael yn ein hadran “Arbrofion Cartref”!


Sut felly mae afiechyd bwyd yn teimlo?

Fe welwch isod symptomau cyffredin ‘gwenwyn bwyd’. Maen nhw fel arfer yn dechrau o fewn ychydig oriau neu ddyddiau o fwyta bwyd halogedig, a gallant bara am hyd at wythnos.

  • Teimlo’n dâl/dost (cyfog): Teimlad anghyfforddus yng nghefn eich gwddf neu anniddigrwydd yn eich stumog. Efallai y byddwch hefyd yn teimlo’n chwil, yn ben ysgafn neu’n cael trafferth llyncu. Mae cyfog yn cyd-ddigwydd yn aml â’r awydd i chwydu ond nid yw bob tro’n arwain at chwydu.

  • Bod yn sâl/dost (chwydu): Pan mae cynnwys eich stumog yn symud i fyny eich pibell fwyd (corn gwddf, neu oesoffagws), ac rydych yn ‘taflu i fyny'.

  • Dolur rhydd: Y diffiniad yw pasio tri carthyn rhydd neu hylifol neu ragor y dydd (neu’n amlach nac sy’n arferol i’r unigolyn).

  • Poenau stumog: Teimlad sydyn ac afreolus o dyndra yng nghyhyrau eich stumog

  • Tymheredd uchel (twymyn): Pan mae tymheredd eich corff yn 38°C neu uwch.

  • Ddim yn teimlo’n dda yn gyffredinol: Megis teimlo’n flinedig neu’n teimlo’n boenus ac oer


Organebau cyffredin sy’n cael eu cysylltu’n aml â gwenwyn bwyd

Gwasgwch ar y lluniau i gael gwybod mwy!


 

Graddfa carthion Bristol 💩

Offeryn diagnostig a ddefnyddir ar draws y byd i ddisgrifio’r siapiau gwahanol posib i’ch pw.

Dim jôc, mae’r raddfa hon yn bod o ddifrif!

  • Mae Mathau 1 a 2 yn arwydd eich bod yn rhwym a’i bod yn anodd cael gwared â charthion.

  • Mathau 3 a 4 yw’r siâp arferol. Y ffordd y dylai eich pw edrych!

  • Mae Math 5 yn tueddu tuag at ddolur rhydd.

  • Mae Mathau 6 a 7 yn ddolur rhydd – sy’n aml iawn yn cael ei achosi gan hylendid gwael.

 

Cholera – cyflwr gwenwyn bwyd difrifol

Ewch i’n Cornel Ddarllen a darllenwch am ymlediadau difrifol o CHOLERA dros y canrifoedd, a sut y gwelwyd mai dŵr yfed halogedig oedd prif achos y clefyd ofnadwy hwn sydd wedi lladd miliynau o bobl!


Profwch beth rydych wedi’i ddysgu am hylendid a thrin bwyd trwy wneud cwis bach. 🤓



➡️ Llinell amser Ydyn Ni

Archwiliwch epidemigau dinistriol drwy'r oesoedd, ynghyd â darganfyddiadau gwyddonol hanfodol i helpu rheoli heintiau.