Cornel yr Athro
Superbugs yn cyd-fynd â'r Cwricwlwm newydd i Gymru.
Mae cynnwys Superbugs a'n huchelgais sylfaenol yn ategu pedwar diben y Cwricwlwm yn llawn. Mae’r dibenion hyn yn datblygu plant a dysgwyr ifanc i fod yn:
ddysgwyr uchelgeisiol, galluog — sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau
gyfranwyr mentrus, creadigol — sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
unigolion iach, hyderus — sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Cliciwch ar y delweddau isod i ddarganfod sut mae ein cynnwys a'n gweithgareddau yn rhychwantu'r chwe maes dysgu a phrofiad: