Rhan o'r Corff: Ysgyfaint
Haint: Ffibrosis systig. Mae hwn yn glefyd sy'n peri i lysnafedd trwchus gronni. Dyma'r amgylchedd perffaith i facteria dyfu, ac mae'n achosi haint difrifol.
Symptomau:Problemau gydag anadlu (gwichian, peswch, diffyg anadl), colli pwysau, croen melyn (clefyd melyn), heintiau difrifol sy'n arwain yn y pen draw at fethiant yr ysgyfaint.
Bacteria:
Pseudomonas aeruginosa
Haemophilus influenzae
Burkholderia cepacia
Staphylococcus aureus