Students Against Superbugs Africa

Nairobi (Cenia)

Gwybod Rhywbeth am Ymwrthedd Gwrthficrobaidd.

Myfyrwyr yn erbyn SuperbugsMae Affrica yn fenter sy'n cael ei gyrru gan fyfyrwyr o dan arweiniad gweithwyr iechyd proffesiynol cymwys i liniaru bygythiad ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) mewn cymunedau Affricanaidd gan ddefnyddio Dull Un Iechyd gyda ffocws brwd ar ardaloedd gwledig ac aneddiadau anffurfiol trefol. Mae Myfyrwyr Yn Erbyn Arch-fygiau-Affrica yn fenter dan arweiniad myfyrwyr gyda chyfarwyddyd gan weithwyr iechyd cymwysedig i liniaru bygythiad ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) mewn cymunedau yn Affrica trwy ddefnyddio Trefniant Un Iechyd a rhoi sylw manwl i ardaloedd gwledig ac aneddiadau trefol anffurfiol.

Mae eu cyfres fideo wych wedi cael ei thargedu i addysgu’r cyhoedd, a phobl ifanc yn enwedig. Mae’r rhaglen yn ceisio cael mwy o bobl i gymryd rhan yn AMR, yn enwedig felly fyfyrwyr a gweithwyr proffesiynol y tu allan i sefyllfaoedd gofal iechyd, trwy ddangos fod AMR nid yn unig yn her iechyd ond yn her economaidd a chymdeithasol hefyd.


 

Pennod 1: Beth yw Ymwrthedd Gwrthficrobaidd?

Rhoi trosolwg o wrthficrobau a’r defnydd ohonynt, gan gynnwys cyflwyniad i gysyniad ymwrthedd gwrthficrobaidd.


 

Pennod 2: Beth yw mecanweithiau Ymwrthedd Gwrthficrobaidd?

Esbonio mecanweithiau cymhleth AMR, gan ddechrau o ddisgrifiad o gydrannau craidd y gell facteraidd a’u rolau.


 

Pennod 3: Peryglon cyfnod gwrthfiotig; pam mae angen inni weithredu YN AWR?

Adrodd stori am y sefyllfa iechyd cyn darganfod gwrthfiotigau pan oedd yn gyffredin i farw o heintiau syml a chyfeirio at effeithiau gwyrthiol gwrthfiotigau a’u cyfraniad enfawr i wella gofal iechyd.


 

Pennod 4: Beth yw’r arferion sy’n gyrru Ymwrthedd Gwrthficrobaidd?

Disgrifio rhai o’r ffactorau sydd wedi arwain at gynnydd mawr yn nifer yr heintiau sy’n gallu ymwrthod cyffuriau, gan roi ffocws cyfartal ar iechyd dynol, iechyd anifeiliaid, planhigion a’r amgylchedd, a dangos sut mae’r holl ffactorau hyn yn rhyngweithio.


 

Pennod 5: Baich byd-eang Ymwrthedd Gwrthficrobaidd

Cyflwyno’r union ystadegau a ffigyrau a gasglwyd gan fudiadau a sefydliadau credadwy, ac effaith niweidiol AMR ar weithdrefnau fel cemotherapi a llawdriniaeth yn ogystal â goblygiadau economaidd a chymdeithasol AMR.


 

Pennod 6: Pam rydyn ni angen mwy o ymdrechion a mentrau ar Ymwrthedd Gwrthficrobaidd?

Arddangos ymdrechion gwahanol gan sefydliadau rhyngwladol, llywodraethau lleol a budd-ddeiliaid eraill i fynd i’r afael ag AMR, a pham nad yw’r ymdrechion hynny’n ddigon.


 

Pennod 7: Camau y gallwch eu cymryd i arafu ymlediad Ymwrthedd Gwrthficrobaidd

Cyflwyno dull haenog a ddatblygwyd gan fenter Gwarcheidwad Gwrthfiotigau i’ch cynghori ar ba gamau allwch eu cymryd.


➡️ Llwybr Antur

Dewch mewn i fyd microbau!

Dysgwch fwy am facteria, sut maen nhw’n ein gwneud yn sâl/dost, a pham mae ymwrthedd i wrthfiotigau yn gymaint o broblem.

Gallwch gymryd y llwybr antur gam wrth gam. Neu ymchwilio’r pynciau mewn unrhyw drefn a fynnwch.

Chi sy’n penderfynu!

 

➡️ Superbugs Rhyngwladol

Mynd i’r afael â bygythiad byd-eang ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Rydym yn awyddus i weithio gydag eraill ar y ffordd orau o helpu codi ymwybyddiaeth ac addysgu cymunedau ledled y byd, trwy ddefnyddio cyfuniad o adnoddau ar-lein a gweithgareddau wyneb yn wyneb pwrpasol.

Dewch inni ei wneud gyda’n gilydd!