Rwanda One Health Club (ROHIC)
Rwanda
Cymuned yw ein ffocws.
Mae ROHIC yn fudiad a ddechreuwyd gan ddau fyfyriwr oedd yn siomedig gyda’r ffordd y mae ein cwricwlwm yn brin o wybodaeth am ymwrthedd gwrthficrobaidd a’r rhyng-gysylltiad rhwng yr amgylchedd, anifeiliaid a phobl. Ar ôl gwneud y gwyddorau sylfaenol bron i gyd, doedden ni’n gwybod dim am y pwnc. Fodd bynnag, mae’n fendith gudd, gan ein bod erbyn hyn yn helpu myfyrwyr eraill i ddod yn well gweithwyr proffesiynol.
Bwriadwn ehangu i ysgolion uwchradd a chynradd a chyhoeddi ein llyfr cyntaf.
Dilynwch ni ar Twitter/X:
➡️ Llwybr Antur
Dewch mewn i fyd microbau!
Dysgwch fwy am facteria, sut maen nhw’n ein gwneud yn sâl/dost, a pham mae ymwrthedd i wrthfiotigau yn gymaint o broblem.
Gallwch gymryd y llwybr antur gam wrth gam. Neu ymchwilio’r pynciau mewn unrhyw drefn a fynnwch.
Chi sy’n penderfynu!
➡️ Superbugs Rhyngwladol
Mynd i’r afael â bygythiad byd-eang ymwrthedd gwrthficrobaidd.
Rydym yn awyddus i weithio gydag eraill ar y ffordd orau o helpu codi ymwybyddiaeth ac addysgu cymunedau ledled y byd, trwy ddefnyddio cyfuniad o adnoddau ar-lein a gweithgareddau wyneb yn wyneb pwrpasol.
Dewch inni ei wneud gyda’n gilydd!