AMR Intervarsity Training Program
Nigeria
Rhaglen adeiladu capasiti pobl ifanc ar gyfer myfyrwyr israddedig yn Nigeria.
Gyda chefnogaeth ariannol hael gan y Sefydliad i Atal Ymwrthedd Gwrthfiotigau, mae AMR Intervarsity Training Program yn anelu at atgyfnerthu gwybodaeth am AMR ymhlith myfyrwyr trydyddol, fel y gallant chwarae rhan weithredol mewn ymdrechion codi ymwybyddiaeth ac eiriolaeth am AMR, hyrwyddo’r defnydd cywir o wrthficrobau, ceisio atal AMR rhag lledu a datblygu a chryfhau stiwardiaeth o AMR.
Hefyd, byddai’r rhaglen yn sefydlu Clybiau AMR amlddisgyblaethol mewn 24 sefydliad trydyddol ar draws y wlad, a chynnig ffordd werthfawr o alluogi mwy o bobl ifanc i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd AMR ar draws sefydliadau trydyddol yn y wlad.
Amcanion
Mae ein rhaglen yn ceisio:
Gwneud myfyrwyr yn gyfarwydd â chysyniad AMR, Stiwardiaeth Gwrthficrobaidd ac Un Iechyd
Arfogi myfyrwyr gyda’r wybodaeth a sgiliau sydd mor bwysig ar gyfer eiriol dros AMR
Paratoi’r myfyrwyr i fod yn arweinwyr iechyd cyhoeddus y dyfodol, trwy arloesi atebion blaengar i fynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd
Hyrwyddo cynaliadwyedd wrth godi ymwybyddiaeth am AMR ar gampysau a’r gymuned letyol trwy addysg, ymgyrchu, eiriolaeth, a digwyddiadau cymdeithasol
Sefydlu llwyfan ar gyfer meithrin, hyfforddi ac ail-hyfforddi Hyrwyddwyr Ifanc AMR fydd yn arwain y frwydr yn erbyn AMR
Meithrin cydweithio amlddisgyblaethol i fynd i’r afael ag AMR trwy ddulliau clinigol, sylfaenol a gwyddorau cymdeithasol
Darparu llwyfan ar gyfer hyrwyddo a chefnogi ymchwil, arloesi, ac ymyriadau er mwyn ceisio ymateb i fygythiadau AMR ar lefelau lleol a rhyngwladol
Creu ymwybyddiaeth o AMR mewn cymunedau gwledig a threfol
Annog cymunedau i fabwysiadu a defnyddio dulliau effeithiol o atal a rheoli heintiau
Eiriol gyda’r bwriad o atal y don o gamddefnyddio gwrthficrobau
Annog newidiadau ymddygiad; grymuso cymunedau i wneud y dewisiadau cywir wrth ddefnyddio gwrthficrobau
➡️ Llwybr Antur
Dewch mewn i fyd microbau!
Dysgwch fwy am facteria, sut maen nhw’n ein gwneud yn sâl/dost, a pham mae ymwrthedd i wrthfiotigau yn gymaint o broblem.
Gallwch gymryd y llwybr antur gam wrth gam. Neu ymchwilio’r pynciau mewn unrhyw drefn a fynnwch.
Chi sy’n penderfynu!
➡️ Superbugs Rhyngwladol
Mynd i’r afael â bygythiad byd-eang ymwrthedd gwrthficrobaidd.
Rydym yn awyddus i weithio gydag eraill ar y ffordd orau o helpu codi ymwybyddiaeth ac addysgu cymunedau ledled y byd, trwy ddefnyddio cyfuniad o adnoddau ar-lein a gweithgareddau wyneb yn wyneb pwrpasol.
Dewch inni ei wneud gyda’n gilydd!