
Tyfu Eich Microbau Eich Hun

Darganfyddwch fywyd cyfrinachol germau ynom, arnom ac o'n cwmpas.
Yn 'Bodau dynol: Bwffe bwytewch gymaint ag y gallwch', dangoswyd i chi rai o'r bacteria sy'n tyfu i mewn ac arnom ni. Ond yn amlwg, ni allwn eu gweld, maent yn ficrosgopig!
Yn ystod gwyliau'r haf 2019, yn ein Superbugs Siop Wyddoniaeth Dros Dro, gofynnon ni i bobl swab pob math o rannau o'r corff, er mwyn i ni allu tyfu i fyny pa facteria oedd ganddyn nhw arnyn nhw.
Roedden ni'n cymryd samplau o drwyn plant a rhieni, tafodau, gyddfau, dannedd a chlustiau. O wynebau, dwylo, gwallt, botymau bol ac armpits. O ffonau symudol, modrwyau, welingtons, y llawr a blwch sbwriel cath.
Rhoesom y swabiau ar blatiau agar, sef platiau jeli sy'n llawn o'r pethau da y mae bacteria yn eu bwyta. Yna, gadawsom iddynt dyfu yn ein labordy ac fe dynnwyd lluniau o'r bacteria a'r llwydni a dyfodd dros y 1-2 diwrnod nesaf!
Felly gallwch weld bod ein corff a'n hamgylchfyd yn llawn o bob math o ficro-organebau gwahanol... Onid yw microbioleg yn hynod ddiddorol?
Wel. Ac ychydig yn ychafi, rhaid cyfaddef. 🤢
Byddwch yn barod am newyddion am ddigwyddiadau byw Superbugs a gynhelir cyn bo hir ac efallai y cewch gyfle i swabio eich hun! ***
Edrychwch ar ein hadran Arbrofion Cartref, gyda phrotocolau ar sut i wneud eich arbrofion Superbugs eich hun!
Anfonwch luniau o'ch arbrofion a'r canlyniadau atom — y rhai llwyddiannus yn ogystal â'ch methiannau epig!




























Gallwch ddod o hyd i hyd yn oed fwy o luniau yn ein Albwm Facebook Superbugs!
Mae arbennig Nadolig ar gael yn ein hadran Blog. 🎄
➡️ Microbau a'r Amgylchedd
Mae bacteria yn chwarae rhan bwysig yn y ffordd y mae ein planed yn gweithio. Darganfyddwch sut yma.