Ffyngau

Yn wahanol i facteria a feirysau, mae ffwng yn cynnwys mwy nac un gell. Oherwydd hyn, mae rhai ffyngau'n cael eu hystyried yn ficro-organebau, ond nid felly eraill.

Mae ffwng yn rhyfedd gan y gallant newid siâp gan dibynnu ar yr amgylchedd/tymheredd. Er y gall rhai ffyngau achosi haint, mae'r rhan fwyaf yn chwarae rhan bwysig iawn mewn dadelfennu ac ailgylchu maetholion a mwynau yn yr amgylchedd.

Rydym yn defnyddio ffyngau ar gyfer llawer o bethau gwahanol – gan gynnwys burum ar gyfer gwneud bara a chwrw, a thoes pizza! Pan ddarganfuwyd y gwrthfiotigau a ddefnyddiwn heddiw i drin heintiau, roeddent yn cael eu gwneud gan ffyngau!